- Gartref
- Gwybodaeth
Cwrdd â'r Tîm
Gwybodaeth i Gleifion
- Gwasanaethau
Presgripsiynau
Clinigau
Gwasanaethau Eraill
- Dolenni Defnyddiol
- Hunanofal
Hunanofal
- Clinigau
- News & Events
- Cysylltwch â Ni
Flu Vaccinations Autumn 2025
Cwestiynau Cyffredin am y Brechlyn Ffliw
Y cwestiynau mwyaf cyffredin ac atebion.
A yw'n ddiogel?
Mae gan y brechlynnau ffliw a ddefnyddir o dan y rhaglen genedlaethol record diogelwch da. Mae yna dri math o frechlyn ffliw:
- brechlyn byw pedwarfalent sy'n cael ei roi ar ffurf chwistrell drwynol i blant a phobl ifanc rhwng 2 ac 17 oed sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw
- brechlyn pedwarfalent i'w chwistrellu, sy'n cael ei roi i oedolion rhwng 18 a 65 oed sy'n wynebu mwy o berygl o gael y ffliw oherwydd cyflwr iechyd hirdymor, ac i blant 6 mis oed a hŷn sydd mewn grŵp cymwys na all gael y brechlyn byw
- a brechlyn trifalent sy'n cynnwys cyffur ategol a chwistrellir. Mae hwn ar gyfer pobl 65 oed a hŷn, ac amlygwyd ei fod yn fwy effeithiol ymysg y grŵp oedran hwn. I fod yn gymwys ar gyfer hwn, dylech fod yn 65 oed ar 31 Mawrth, 2019 – hynny yw, cawsoch eich geni ar neu cyn 31 Mawrth 1954.
Siaradwch â'ch meddyg teulu neu â nyrs neu fferyllydd y feddygfa i gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn.
Pwy a ddylai gael y brechlyn ffliw
Mae'r brechlyn ffliw yn cael ei roi fel mater o drefn trwy'r GIG i:
- oedolion 65 a hŷn (gan gynnwys oedolion dros 18 oed sydd mewn perygl o gael y ffliw)
- menywod beichiog
- plant 2 a 3 oed
- plant yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd ysgol 1, 2, 3, 4 a 5
- plant 2 i 17 oed sydd mewn perygl o gael y ffliw
Pwy na ddylai gael y brechiad rhag y ffliw?
Gall y rhan fwyaf o oedolion gael y brechlyn ffliw a chwistrellir, ond dylech ei osgoi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i frechlyn ffliw yn y gorffennol.
Beth yw'r Sgileffeithiau?
Mae sgileffeithiau difrifol i'r brechlyn ffliw a chwistrellir yn brin iawn. Efallai y byddwch yn dioddef o dwymyn ysgafn a chyhyrau poenus am ychydig ddyddiau ar ôl cael y brechlyn, a gallai eich braich fod fymryn yn boenus lle cawsoch eich chwistrellu.
Gall sgileffeithiau'r brechlyn ar ffurf chwistrell drwynol gynnwys trwyn sy'n rhedeg neu sydd wedi'i flocio, cur pen, blinder a cholli rhywfaint o archwaeth.